Cymryd rhan o ble bynnag yr ydych/Participate from wherever you are
Yn edrych ymlaen i'ch recriwtio/Looking forward to recruiting you
Archwiliwch adnoddau, sgwrsio â rheolwyr llogi, a thyfu eich rhwydwaith/Explore resources, chat with hiring managers, and grow your network
Am y tro cyntaf bydd carfan Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant Awdurdod Lleol Rhondda Cynon Taf yn cynnal ei Ffair Yrfaoedd yn rhithwir yn 2021. Mae’r achlysur yn cael ei gynnal ddwywaith y flwyddyn. Bydd yr achlysur yn cyflwyno amgylchedd 3D rhyngweithiol iawn gyda nifer o gwmnïau sydd â swyddi gwag, yn ogystal â phrentisiaethau a swyddi Graddedig. Bydd yr achlysur yn cynnwys nifer o weminarau wedi'u recordio ymlaen llaw a fydd yn taflu goleuni ar rai o'r sefydliadau a'r cyfleoedd sydd ar gael, a darparu gwybodaeth amdanyn nhw. Bydd gweminarau a fydd yn eich cefnogi chi ar sut i gwblhau ffurflen gais, yn ogystal â chynnig technegau i’w defnyddio mewn cyfweliad.
A'r rhan orau yw bod yr achlysur yma'n un rhithwir, felly mae modd i chi fanteisio ar y cyfan o unrhyw le – does dim rhaid i chi adael eich cartref hyd yn oed! Byddwn ni'n eich annog i archwilio'r holl yrfaoedd sydd ar gael.
Peidiwch â methu achlysur gyrfaoedd mwyaf y flwyddyn!
Dyma rai o uchafbwyntiau Achlysur Gyrfaoedd Rhithwir mis Chwefror RhCT :
Gwyliwch y fideo yma er mwyn dysgu rhagor am ddefnyddio Platfform Achlysuron Rhithwir VFairs:
For the first time Rhondda Cynon Taf Local Authority’s Employment, Education and Training team will deliver their bi-annual Careers Fair event virtually in 2021. The event will deliver a highly interactive, 3D environment with a number of companies who will have open jobs, apprenticeships and graduate apprenticeships. The event will feature a number of pre-recorded webinars which will provide you with insight and information on some of the organisations and the opportunities available, along with Webinars that will support you in how to successfully complete an application form and interview techniques.
And the best part is this event is virtual so you can experience it all from anywhere – you don’t even have to leave your home! We encourage you to explore the career possibilities available.
Don’t Miss the Biggest Career Event of the Year!
Highlights the February RCT Virtual Careers Event has to offer:
Learn more about using the VFairs Virtual Event Platform by watching this video: